Genesis 25

Disgynyddion eraill Abraham

(1 Cronicl 1:32-33)

1Roedd Abraham wedi cymryd gwraig arall o'r enw Cetwra. 2Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.

3Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid.
4Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.

5Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac. 6Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid
25:6 bartneriaid Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.

Abraham yn marw

7Buodd Abraham fyw i fod yn 175 oed. 8Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn. 9Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi ei brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara.

11Ar ôl i Abraham farw dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi.

Disgynyddion Ishmael

(1 Cronicl 1:28-31)

12Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:

13Dyma enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf):

Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam, 14Mishma, Dwma, Massa, 15Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema. 16Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau.

17Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid. 18Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.

Geni Jacob ac Esau

19Dyma hanes teulu Isaac, mab Abraham:

Abraham oedd tad Isaac. 20Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead.) 21Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr Arglwydd drosti, a dyma hi'n beichiogi. 22Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ac roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?”
25:22 Hebraeg yn aneglur.
gofynnodd. A dyma hi'n mynd i ofyn i'r Arglwydd.
23A dyma ddwedodd yr Arglwydd wrthi:

“Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth.
Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd.
Bydd un yn gryfach na'r llall,
a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”

24Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni. 25Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau.
25:25 Esau Yn Hebraeg mae "Esau" yn swnio fel "blewog".
26Wedyn daeth y llall yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw'n Jacob
25:26 h.y. gafael yn sawdl, neu, disodli.
. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni.

27Pan oedd y bechgyn wedi tyfu roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartre. 28Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi eu dal. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca.

Esau'n gwerthu ei hawliau fel y mab hynaf

29Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela. 30“Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom.
25:30 h.y. coch.
)
31“Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob. 32Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!” 33“Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob. 34Felly rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed dyma Esau yn codi ar ei draed a cherdded allan. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf.

Copyright information for CYM